Dyddiad Cau: 4:00yh ddydd Gwener 3ydd Gorffennaf 2026.
Rhan-Amser – 17.5 awr yr wythnos Cyflog: £25,000 y flwyddyn (pro rata) Contract: 24 mis (wedi’i ariannu gan Grant Gwirfoddoli Cymru) Lleoliad: Llandysul, gyda theithio ar draws Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a rhannau o Ogledd Sir Benfro
Mae Llandysul a Phont Tyweli Ymlaen yn chwilio am Swyddog Datblygu Gwirfoddolwyr trefnus ac cymellog i helpu i ddatblygu a chefnogi gwirfoddoli ar draws ei brosiectau cymunedol, gan gynnwys Trafnidiaeth Cymunedol Dolen Teifi
Mae’r sefydliad yn gweithio gyda chymunedau ar draws Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a rhannau o Ogledd Sir Benfro i wella mynediad at wasanaethau, cefnogi llesiant, a chryfhau gwydnwch lleol. Mae gwirfoddolwyr yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith hwn, gan gyfrannu miloedd o oriau bob blwyddyn drwy drafnidiaeth gymunedol, mentrau lleol a gweithgareddau datblygu cymunedol.
Bydd y rôl newydd hon yn canolbwyntio ar ddatblygu rhaglen wirfoddoli strwythuredig, gynhwysol a chynaliadwy, tra hefyd yn arwain y sefydliad drwy’r broses o ennill achrediad Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr (Investing in Volunteers), safon genedlaethol gydnabyddedig.