Penwythnos Garddio Llandysul 2026CHWEFROR 2026: Dydd Iau 19eg, Dydd Gwener 20fed, Dydd Sadwrn 21ain, Dydd Sul 22ain.
10yb-5yp
Ymunwn â ni yn Neuadd Tysul, Llandysul, SA44 4QL.
Dechrau Blwyddyn Newydd ac rydym yn edrych ymlaen at Benwythnos Garddio Llandysul a fydd unwaith eto yn atyniad cyffrous yn ardal Dyffryn Teifi. Mae’r digwyddiad pedwar diwrnod yn denu ymwelwyr o ardal eang ac yn cynnig cyfle i arddwyr nofis ynghyd a rhai mwyaf profiadol i ddechrau paratoi ar gyfer y gwanwyn.
Yn ystod y pedwar diwrnod, bydd arbenigwyr yn rhoi sgyrsiau ar amrywiaeth o bynciau tyfu a garddio gan gynnwys yr hoff “Hellebores”. Gweler y rhaglen am fanylion llawn, neu ewch i’n gwefan www.fyn.wales. Yn y Brif Neuadd bydd stondinau yn gwerthu amrywiaeth eang o blanhigion ac addurniadau gardd. Bydd y Llwyfan unwaith eto yn creu arddangosfa wych i’ch ysbrydoli ar gyfer y flwyddyn i ddod. Diolch i Farmyard Nurseries, enillydd medal aur RHS Llandysul.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu i ddigwyddiad 2026 gan ei fod yn argoeli i fod yn ysbrydoledig ac yn llawn egni a'ch rhoi mewn hwyliau ar gyfer y flwyddyn arddio sydd i ddod.
SYLWCH - cynhelir y trafodaethau am ddim yn yr ystafell i fyny'r grisiau yn Neuadd Tysul - cyfyngir y rhif.
10.40yb: Richard Bramley – Crafanc-yr-arth, Diddordeb Caethiwus Sut y dechreuodd y cariad, o'r cyfarfod cyntaf â Helen Ballard hyd heddiw.
1.00yp: Sue Kent – Planhigion Lluosflwydd mewn Potiau Bydd Sue yn trafod rhai o'i hoff blanhigion i ychwanegu diddordeb at eich potiau a bywiogi unrhyw ardd.
3.15yp: Roddy Milne – Planhigion Bythwyrdd i Greu Argraff yn y Gaeaf Palmwydd caled, rhedyn bythwyrdd mawr, mahonia a phlanhigion eraill i greu golygfa gaeaf drofannol.
10.40yb: Adam yn yr Ardd – Garddio mewn Cymru Wlyb Mae'r cyflwynydd S4C yn rhannu ei awgrymiadau a'i driciau gorau â ni ar gyfer garddio yn yr hinsawdd sydd ohoni.
1.00yp: Connor O’Donoghue – Planhigion Ymledol. Ydych chi'n gwybod pa blanhigion sy'n ymledol? Neu sut i'w rheoli?
3.15yp: Ruth a Rich – Y Sioeau. Bydd y tad a'r ferch yn adrodd hanes eu hanturiaethau wrth iddynt fynychu sioeau gyda'i gilydd, yr holl drallod, ac ennill AUR.
10.40yb: David Wheeler – Y Pâr Perffaith. Sgwrs â darluniau ar dyfu masarn Japan a thrilliw ar ddeg (hydrangea) gyda'i gilydd.
1.00yp: Rich – Crafanc-yr-arth, Y Ffordd Ymlaen. Mae pob un ohonom wrth ein bodd â'r grafanc-yr-arth draddodiadol, ond a ydych chi wedi gweld rhai o'r ffurfiau, lliwiau a chroesrywiau newydd?
3.15yp: Janine Richter – Lledaenu ar gyfer y Feithrinfa Bydd Justine, gynt o Hilliers, yn trafod y technegau a'r pleser o dyfu planhigion o ddarnau o blanhigion eraill.
10.40yb: Ruth Bramley – Planhigion Tŷ Poblogaidd i'r Dechreuwr. Manteision iechyd planhigion tŷ ac ychwanegiad ffasiynol i'ch cartref.
1.00yp: Malcolm Berry – Deall Pridd. Y modd y mae bod â dealltwriaeth dda yn elfen sylfaenol o'n llwyddiant neu ein methiant.
3.15yp: Justine Burgess – Garddio Heb Balu. Garddio Heb Balu, ac esboniad o'r modd y mae peidio â phalu yn gwneud bywyd yn haws ac yn helpu planhigion i dyfu'n fwy iach, gyda llai o chwyn.
Parcio: yn y maes parcio talu ac arddangos.
Croesawir Grwpiau, bysiau.
Lluniaeth: Bydd siop de yn y neuadd, ar agor trwy’r dydd ac yn gweini cacennau cartref blasus a lluniaeth.
Bydd cinio ar gael mewn nifer o gaffi’s, tafarndai a bwytai yn Llandysul.
Mae llety dros nos ar gael yn lleol. Gweler y wefan am fanylion.
Gellir cyfuno garddio a cherdded. Mae Llandysul yn dref sy’n Croeso i Gerddwyr. Allwch gael mynediad i wefan Llandysul yn rhwydd er mwyn gweld ein cefn gwlad brydferth.
Cefnogir y digwyddiad hwn yn ariannol gan Cyngor Cymuned Llandysul a trefnir gan Llandysul a Phont Tyweli Ymlaen a “Farmyard Nurseries”.