Mae Julie Murphy (llais) a Ceri Rhys Matthews (ffliwt bren) yn aelodau sylfaenol y grwp gwerin Cymreig arloesol fernhill. Gyda'i gilydd maent yn perfformio caneuon traddodiadol o ddyffryn Teifi a thu hwnt. Mae eu hail-ddatganiadau cerddorol coeth o dirwedd a diwylliant yn ddi-amserol ac mae eu perthynas gerddorol yn anadl am anadl.
Maent yn byw ym Mhencader, ac yn artistiaid rhyngwladol uchel eu parch sydd wedi teithio ledled y byd. Mae eu cerddoriaeth wedi cael ei chynnwys ar In Tune a Late Junction ar BBC Radio 3, BBC Radio Cymru, Radio Wales, BBC Alba, BBC Radio 2 a gorsafoedd ledled Ewrop.
'Mae eu cerddoriaeth yn orfoleddus ac yn fywiog' THE GUARDIAN
