Cyfle i weld casgliad y Gymdeithas Hanes Lleol Llandysul a'r Fro o ffotograffau, mapiau a dogfennau yn Neuadd Tysul.
Os oes gennych ddiddordeb yn hanes eich cartref neu am Llandysul a’r ardal o gwmpas, yna dewch i weld ein casgliad o Luniau, Dogfennau Cyfrifiad, Adroddiadau’r Ddeddf Brisio, Ffurflenni Ffermydd 1943, gwybodaeth am Siopau a Busnesau, yn ogystal â’n casgliadau amrywiol a diddorol am Landysul a’r Fro.
Croeso i bawb!
Nos Wener 16eg Mai: 5yp - 8yh
Dydd Sadwrn 17eg Mai: 10yb - 4yp