Llandysul yw'r dref fwyaf deheuol yng Ngheredigion, ag Afon Teifi sy'n ffurfio ffin ddeheuol. Ar y lan gyferbyn, Pont-Tyweli yw pentrefi mwyaf gogleddol Sir Gaerfyrddin.. Er mae ffin y Sir sydd yn gwahanu ddau anheddiad, yr afon Teifi sydd yn ymuno nhw fel un gymuned.
Mae Llandysul a Phont-Tyweli yng Nghalon Dyffryn Teifi, ac yn enwog ar gyfer pysgota, chwaraeon dŵr, ac ar gyfer cerdded. Drebyniodd Llandysul a Phont-Tyweli statws Croeso i Gerddwyr yn 2009. Ceir gwestai, llefydd gwely a brecwast a bythynod hunanddarpar yn lleol ac o amgylch Llandysul. Yr ydym o fewn cyrraedd hawdd i'r traethau Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.
Mae hon yn gymuned brysur. Sbiwch ar Be’ sy’ mlaen, ac os ydych yn trefnu digwyddiad, beth am ei ychwanegu at y dudalen Be’ sy’ mlaen?
Mae ein cymuned yn weithgar iawn a gallwch ymuno â gwahanol glybiau, a chymdeithasau, cymryd rhan mewn amrywiol weithgareddau chwaraeon, ymuno â grwpiau celf, a grwpiau canu.
Os oes gennych amser rhydd ac eisiau bod yn rhan annatod o'r gymuned, mae digon o gyfleoedd i wirfoddoli i helpu gydag unrhyw beth o'r carnifal blynyddol i stiwardio yn digwyddiadau, i yrru'r bws cymunedol. Mae yna rywbeth i'w gael i bob oedran a gallu. Cysylltwch â Llandysul a Phont-Tyweli Ymlaen am fwy o wybodaeth. Os hoffech i'ch sefydliad ymddangos ar y wefan, ewch i'r ffurflen gyswllt.